In English Mewn Cymraeg

Balchder yn Abertawe

Daw Balchder yn Abertawe trwy gefnogaeth - GaySwansea.com - Cymunedau yn Gyntaf - The Kings Arms Tavern - Hush Cafe Bar & Club - The Exchange a Champers

Am fod Mardi Gras Caerdydd Cymru wedi ei ganslo gan y pwyllgor ynghynt eleni, edrychai’n debygol na fyddai Cymru’n cynnal y digwyddiad a gynhelir yn draddodiadol ar y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Medi bob blwyddyn. Fodd bynnag, penderfynodd Pwyllgor Balchder yn Abertawe, a sefydlwyd er mwyn cyflwyno’r Balchder yn Abertawe cyntaf yn 2009, newid dyddiad eu digwyddiad hwy er mwyn sicrhau y byddai digwyddiad yn cael ei chynnal yng Nghymru ym mis Medi.

Dangosodd Abertawe ei chefnogaeth i’r penwythnos Lesbiaid a Hoywon yn gyflym iawn, bwciwyd perfformwyr ac roedd codi arian ac ymwybyddiaeth wedi dechrau eisoes. Yn wir, cefnogwyd penderfyniad y Pwyllgor i newid dyddiad Balchder yn Abertawe gan gefnogwyr Mardi Gras Caerdydd Cymru yn ogystal â’r gymuned hoyw ehangach.

Golyga datblygiadau diweddar bod pwyllgor newydd yng Nghaerdydd yn cynnig cynnal digwyddiad “Pride Caerdydd” wedi’r cyfan, a’i gynnal ar yr un dydd Sadwrn cyntaf ym mis Medi gan fanteisio ar y gefnogaeth o’r Mardi Gras blaenorol. O ganlyniad i’r diffyg amser i godi arian a chefnogaeth serch hynny, mae’r pwyllgor newydd yn cynnig codi tâl am y digwyddiad trwy gyflwyno pris mynediad.

Yn groes i ddatganiadau a wnaed gan Bwyllgor Pride Caerdydd, ni chafwyd ymgynghoriad gyda Phwyllgor Balchder yn Abertawe. Pe baent wedi ymgynghori, ni fyddent wedi mynd i gytundeb gyda nifer o berfformwyr i berfformio yn y digwyddiad. Yn ogystal â hyn, mae’r Pwyllgor Balchder yn Abertawe yn cydnabod y byddai cynnal y digwyddiad ar yr un diwrnod yn peri rhwyg ac felly maent wedi penderfynu dychwelyd i’r cynllun gwreiddiol o gynnal Balchder yn Abertawe ym mis Mehefin 2009.

Dywedodd Peter Martin sy’n aelod o’r Pwyllgor “yn sgîl yr holl gefnogaeth ac ymroddiad sydd wedi cael ei ddangos eisoes ar gyfer Balchder yn Abertawe, penderfynwyd mai’r ffordd orau i’r rhanbarth gyfan symud ymlaen fyddai i gynnal y digwyddiad cyntaf yn 2009.”

Mae trefnwyr Balchder yn Abertawe yn falch o allu cyhoeddi bod yr holl artistiaid wedi cytuno i symud eu cefnogaeth i 2009, a chyda cynigion ariannol wedi’u cadarnhau, gellir defnyddio’r amser ychwanegol i farchnata a hyrwyddo cynlluniau ymwybyddiaeth gyda busnesau a chyfranwyr lleol, er mwyn sicrhau bod y Balchder yn Abertawe cyntaf yn ddigwyddiad y bydd Cymru’n falch i weld ar ei chalendr blynyddol.